Mae gan Glwb Criced Morgannwg hanes cyfoethog a balch ond mae’r byd criced rhyngwladol ac yma yn y DU yn newid yn gyflym.
Rydym ar genhadaeth i sicrhau bod Clwb Criced Morgannwg yn parhau i wneud Cymru’n falch, ar y cae ac oddi arno, a’n bod yn cael ein cydnabod ochr yn ochr â siroedd mwyaf Cymru a Lloegr.
Mae bod yn un o’r wyth lleoliad sy’n cynnal cystadleuaeth y Can Pelen wedi ein rhoi mewn sefyllfa gref i gael y buddiannau gorau posib o broses fuddsoddi ddiweddar Prosiect Gemini, ac mae’n hanfodol bod yr arian hwn yn cael ei wario’n ddoeth. Mae bod yn rhydd o ddyled ac adeiladu cronfeydd arian wrth gefn yn rhoi cyfle inni fuddsoddi mewn gweithgareddau sy’n cynhyrchu refeniw, fel bod ein clwb yn dod yn fwy cydnerth o ran grymoedd y farchnad allanol, ac yn llai dibynnol ar gyllid ECB, gan olygu ein bod yn gallu cynnal ein hunain yn ariannol dros yr hirdymor.
Mae gennym gyfraniad unigryw i’w wneud i’r gêm fel yr unig glwb proffesiynol yng Nghymru. Mae angen inni ddefnyddio hyn, ynghyd â pherthynas waith gref â Tân Cymreig, i dyfu’r gêm yng Nghymru, gan annog mwy o bobl i ymgysylltu’n bositif â’r clwb ar draws Cymru gyfan, a’i phoblogaeth o dros 3 miliwn o bobl sy’n caru chwaraeon.
Bydd Tân Cymreig yn allweddol yn hyn o beth. Mae’r fasnachfraint eisoes wedi dangos sut y gall ddod â phobl newydd i’r gêm, gyda mwy na 50% o gynlleidfaoedd heb fod i Erddi Sophia o’r blaen cyn dod i wylio eu gêm Can Pelen gyntaf. Trwy ddatblygu timau llwyddiannus a darparu profiadau o’r radd flaenaf gallwn dyfu ein brand, cipio dychymyg y gwylwyr hyn, adeiladu hoffter gydol oes o’r gêm ar bob lefel, a chynyddu’r niferoedd sy’n ymweld â ni.
Byddwn yn gosod ein pobl wrth galon ein clwb gwych ac yn anelu at ddatblygu timau a chwaraewyr elitaidd sydd â’r gallu i gynrychioli eu clwb a’u gwlad gyda rhagoriaeth, gan greu diwylliant ‘un clwb, dau dîm’. Rydym am greu chwaraewyr sy’n batrymau ymddwyn y gall y genedlaeth nesaf eu hedmygu a cheisio’u hefelychu, ac y gall ein haelodau eu cefnogi.
Mae twf enfawr a llwyddiant criced merched a menywod yng Nghymru hefyd yn darparu cyfle ar gyfer llwyddiant. Bydd tîm menywod proffesiynol o 2027 yn pontio’r bwlch hanfodol rhwng y gêm hamdden ffyniannus i ferched a menywod â thîm Menywod Tân Cymreig. Mae hyn yn darparu llwybr i ferched allu gwireddu eu huchelgeisiau o fewn y gêm. Rhaid inni sicrhau bod hyn yn cynhyrchu cyflenwad o gricedwyr dawnus all fynd ymlaen i gynrychioli Morgannwg a Tân Cymreig yn y dyfodol.
Mae Gerddi Sophia yn stadiwm o’r radd flaenaf sy’n adnabyddus am gynnal rhai o’r gemau criced mwyaf. Mae lleoliad y stadiwm yn un unigryw ac ysbrydoledig, wedi’i osod ar dir parc hanesyddol yng nghanol Caerdydd. Ein nod yw cynnal ein henw da eithriadol am lwyfannu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, a pharhau i agor gatiau’r stadiwm ar gyfer ein cymunedau.
Mae’r amgylchedd criced newydd hwn yn darparu cyfleoedd i Glwb Criced Morgannwg nas gwelwyd erioed o’r blaen, a gyda’r strategaeth hon, rydym yn bwriadu manteisio ar hyn a sefydlu ein hunain fel un o’r 8 clwb gorau yn y DU.
Dan Cherry
Prif Weithredwr Criced Morgannwg